Llety yn Llanbister
Gallwn ni gynnig dewis o dair ystafell gyfforddus, pob un â chawod en suite, i’n gwesteion yng ngwesty’r Lion, Llanbister.
Mae ystafell Elystan wedi’i haddurno mewn lliwiau coch Fictoraidd ac ystafell ddwbl ydy hi’n bennaf, ond mae’n bosibl rhoi gwely arall i mewn ar gyfer plentyn, neu i wneud yr ystafell yn un â dau wely ar wahân. Mae yna olygfeydd prydferth o’r ystafell hon, yn tremio dros afon Ieithon a’r bryniau o amgylch. Mae’r ystafell wedi’i henwi ar ôl Elystan Glodrydd, sef brenin Cymreig Sir Faesyfed a gafodd ei eni yn y flwyddyn 927.
Mae ystafell Dorddu wedi’i haddurno mewn lliwiau gwyrdd digyffro ac mae hefyd yn tremio dros afon Ieithon a thros y pentref a nant Dorddu. Mae modd rhoi’r dau wely sengl yn yr ystafell hon at ei gilydd i gael gwely dwbl mawr. Roedd Dorddu yn un o ddisgynyddion Elystan Glodrydd.
Ystafell sengl yw Maelienydd, yr olaf o’n hystafelloedd. Maelienydd oedd teyrnas Elystan ac mae’r golygfeydd o’r ystafell hon yn tremio dros y bryniau agored o’r enw Maelienydd o hyd. Lliwiau llwydfelyn/oren sydd yn yr ystafell hon.
Mae yna set deledu gyda rhaglenni rhad ac am ddim Sky ym mhob un o’n hystafelloedd, yn ogystal â chyfleusterau gwneud te/coffi, sychwr gwallt a phethau ymolchi. Mae mynediad Wifi ar gael am ddim ym mhob ystafell.
Rydyn ni’n westy sy’n croesawu cŵn yng Nghanolbarth Cymru, gyda Thir Comin agored o’n hamgylch sydd â mynediad rhydd i grwydro. Y ni yw’r unig Lety Gwely a Brecwast a Bwyty Trwyddedig yn Llanbister.
Roedd hi’n hawdd dewis yr enwau ar gyfer yr ystafelloedd oherwydd bod cydberchennog gwesty’r Lion, Llanbister yn un o ddisgynyddion Elystan Glodrydd ac mae hyd yn oed arwydd a logo gwesty’r Lion wedi’u seilio ar arfbais Elystan. Mae mwy o fanylion i’w gweld yn www.elystan.co.uk
Tariff 2015
Cyfraddau Gwely a Brecwast:
Mae’r cyfraddau fesul ystafell fesul noson ac maen nhw’n cynnwys brecwast cymru llawn
Ystafell Ddwbl Elystan £75.00
Ystafell Dau Wely Dorddu £75.00
Ystafell i'r Teulu Ithon £85.00
Ystafell Sengl Maelienydd £42.00
I un person aros yn Elystan neu Dorddu £52.00
Cynnig Arbennig: Os bydd dau ohonoch chi’n aros am ddwy noson neu fwy yn Elystan neu Dorddu, yna daw’r gyfradd i lawr i £55.00 fesul noson, gan gynnwys brecwast.
Mae gwesty’r Lion yn croesawu plant ac mae modd darparu cotiau.
Mae croeso hefyd i anifeiliaid anwes sy’n ymddwyn yn dda.
Mae Llety Hunanddarpar hefyd ar gael ar gyfer hyd at 10 o bobl. Gofynnwch am fanylion os ydych chi eisiau gwybod mwy.
Archebu:
Mae’n rhaid ichi roi manylion cerdyn credyd/debyd pan rydych chi’n archebu i warantu bod ystafell yn cael ei chadw ichi.
Ni fyddwn ni’n codi am ystafelloedd sy’n cael eu canslo mwy na 48 awr cyn cyrraedd. Os bydd y rhybudd yn llai na 48 awr, yna byddwn ni’n codi am bob noson sydd wedi’i harchebu.
Talu: Cerdyn Debyd, Visa, Master Card, Arian Parod neu Siec.
Rydyn ni hefyd yn aelod o Britstops, sy’n golygu ein bod ni’n gadael i Gartrefi Modur aros ar ein maes parcio dros nos yn rhad ac am ddim.
Mae modd cael cysylltiad trydan os oes ei angen. I gael gwybod mwy, ewch i www.britstops.com