Iaith:

English

E-bost: lionhotel_llanbister@btinternet.com
Ffôn: 01597 840244

Tafarn Wledig a Llety Gwely a Brecwast y mae teulu’n ei redeg yn Llanbister, Powys.

Croeso i westy’r Lion, sef tafarn wledig a llety gwely a brecwast cyfeillgar sydd wedi’i hen sefydlu yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Janet a Ray Thomas wedi bod yn berchen ar westy’r Lion am 20 mlynedd, ond mae’r dafarn wedi bod ym mhentref Llanbister, ger Llandrindod, am fwy na chanrif. Mae’r cwpl wedi cadw rhai o nodweddion ac addurniadau traddodiadol Fictoraidd y dafarn, sy’n rhoi naws oes a fu i’r adeilad. Gall gwesteion sy’n aros yng ngwesty’r Lion deimlo’u bod nhw wedi camu yn ôl mewn amser i ddiwedd y 19eg ganrif ond eto mwynhau cysuron bywyd cyfoes. Mae’r ystafelloedd yn gynnes ac yn glud gyda golygfeydd ysblennydd yn tremio dros gefn gwlad trawiadol Cymru ac afon Ieithon gerllaw.

Mae lleoliad gwesty’r Lion yn golygu ei fod yn ddewis llety gwely a brecwast gwych yng Nghanolbarth Cymru. Pentref bach tawel yn swatio yng nghefn gwlad prydferth Cymru yw Llanbister. Fodd bynnag, mae’n lle gwych i aros i’r rheiny sydd eisiau anturio trwy Ganolbarth Cymru, gyda mannau prydferth fel Cwm Elan gerllaw, yn ogystal â nifer o deithiau cerdded gwych, gan gynnwys teithiau enwog Llwybr Glyndŵr a Llwybr Clawdd Offa. Mae’r dafarn hefyd mewn lle cyfleus i’r rheiny sy’n ymweld â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, a gynhelir bob blwyddyn yn Llanfair-ym-muallt, ac mae hefyd o fewn cyrraedd rhwydd i drefi marchnad Llandrindod, y Drenewydd, Rhaeadr Gwy, Llanandras a Threfyclo.

Yn ogystal â llety gwely a brecwast cyfforddus ymhlith tirweddau trawiadol, mae gwesteion sy’n aros yng ngwesty’r Lion yn siŵr o gael croeso cynnes. Mae yna dair ystafell ar gael i westeion yn y dafarn, sy’n rhoi awyrgylch clud a phersonol iddi. Mae yna hefyd fwyty sy’n gweini bwyd tafarn traddodiadol, sef bwyd cartref yn bennaf, o gynnyrch lleol lle bo hynny’n bosibl.

Mae Janet a Ray wrth eu bodd o groesawu gwesteion i’w gwesty a’u helpu i wneud yn fawr o’u gwyliau yng Nghanolbarth Cymru.

Maen nhw’n edrych ymlaen at eich croesawu chithau i’w cartref.